![]() ![]() |
|
| English | |
|
|
YsgolionDiwrnod 1 – Dydd Gwener 11 Gorffennaf 2008Mae’r diwrnod cyntaf yn agored i bob ysgol uwchradd, clybiau a sefydliadau plant De Cymru ac yn rhad ac am ddim i fynychu! Bydd miloedd o blant ysgol a phobl ifanc o glybiau a sefydliadau ar draws De Cymru yn mynychu’r digwyddiad, i ddysgu o weld arddangosfeydd cyffrous, addysgiadol, dramatig a chyflwyniadau cynhyrfiol gyda’r amcan o wneud eu bywydau’n fwy diogel. Yn ogystal, byddant yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau i brofi eu sgiliau a’u hyder, fel cyrsiau antur a waliau dringo. Bydd cynnwys ‘Gorau Glas’ hefyd yn cefnogi gwerthoedd craidd y cwricwlwm ABCh Os nad yw eich ysgol, clwb neu sefydliad wedi derbyn ei wahoddiad eto, cysylltwch â: Paul Williams: Ffon: 07500 100193 E-bost : p-williams@southwales-fire.gov.uk Fraser Ingram: Ffon: 07747 693349 E-bost : f-ingram@southwales-fire.gov.uk
|
|
|
|