Peniad darlunioPeniad darlunio
  English

Y Cyhoedd

Dydd Sadwrn 12 Gorffennaf 2008

Mae croeso i bawb! Ar yr ail ddiwrnod, mae’r digwyddiad yn agored i’r cyhoedd ac eto, mae’n rhad ac am ddim!

Gall ymwelwyr ddysgu o weld arddangosfeydd cyffrous, addysgiadol a dramatig a chyflwyniadau cynhyrfiol gyda’r amcan o wneud eu bywydau’n fwy diogel.

Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru hefyd yn arddangos y sgiliau a ddysgwyd gan ein Diffoddwyr Tân Ifanc ni’n hun ac yn esbonio sut mae pobl ifanc yn cael budd ac yn datblygu drwy ymuno â’r cynllun.

Bydd cyfle hefyd i fod yn dyst i sgiliau Cŵn yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân a Thîm Parasiwt Gwasanaeth Tân Llundain, yn ogystal â nifer o gyflwyniadau cyffrous eraill.

Cysylltwch

Er mwyn dod o hyd i fwy o wybodaeth am ‘Gorau Glas’, cysylltwch â :

Chris Conquer, Swyddog Gweinyddol Seremonïau a Digwyddiadau

Ffon: 01443 232308
E-bost: c-conquer@southwales-fire.gov.uk