![]() ![]() |
|
| English | |
|
|
Mis Gorffennaf 2008 ‘Gorau Glas’“Eleni, rydym unwaith eto’n ymhyfrydu ein bod yn ymuno â’n cydweithwyr yn y gwasanaethau brys drwy gydol Cymru, i gynnal digwyddiad tebyg i llynedd, ond ar raddfa llawer mwy! Rydym yn disgwyl, dros y ddau ddiwrnod, denu cymaint â 20,000 o ymwelwyr!” Mewn cydweithrediad ag Achub Byd Cymru, bydd ‘Gorau Glas’ yn gyfle i ymrwymo ac addysgu’r cyhoedd mewn diogelwch ar y ffyrdd a materion diogelwch cymunedol eraill. Trwy gydweithrediad ymarferol, rydym yn hyderus y bydd ‘Gorau Glas’ yn denu ymwelwyr ar draws y rhanbarth ac yn chwarae rhan bwysig mewn hyrwyddo diogelwch cymunedol ledled Cymru a thu hwnt. Parc ButeWedi’i amgylchynu gan yr Afon Taf, Gerddi Soffia, Caeau Pontcanna a Chastell Caerdydd, mae Parc Bute yn ffurfio gwagle agored enfawr yng nghanol dinas Caerdydd. Ychydig iawn o ddinasoedd sydd ag ardal werdd estyngedig yng nghalon y ddinas. Gan orchuddio tua 130 o erwau, Parc Bute oedd gerddi Castell Caerdydd gynt, ac mae gan y parc draddodiad hir o dirlunio sy’n ymestyn yn ôl i’r canoloesoedd. Mae gwedd gyfredol y parc o dan ddylanwad tirlunio Capability Brown ar ddiwedd y 18ed Ganrif yn ogystal â’r newidiadau a wnaeth Trydydd Ardalydd Bute ar ddiwedd y 19eg Ganrif. Gan redeg tua’r gogledd wrth ochr yr Afon Taf, mae’r parc yn cynnig cyfuniad o erddi blodau, caeau chwarae a hyd yn oed ‘Cylch yr Orsedd’. Mae’r parc yn cynnal nifer o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys gwyliau cwrw, cyngherddau awyr agored, arddangosfeydd tân gwyllt a sioeau masnach. Diwrnod 1 - Ysgolion - Dydd Gwener 11 Gorffennaf 2008Ar agor i bob ysgol uwchradd, clybiau a sefydliadau plant De Cymru ac yn rhad ac am ddim i fynychu! Diwrnod 2 – Y Cyhoedd - Dydd Sadwrn 12 Gorffennaf 2008Croeso i bawb! Mae ‘Gorau Glas’ yn agor y drysau i’r cyhoedd ar yr ail ddiwrnod ac unwaith eto mae’n rhad ac am ddim i fynychu! ArddangoswyrOs oes gennych arddangsofa gyffrous yr hoffech gyflwyno fel rhan o’r digwyddiad hwn, cysylltwch â ni nawr!
|
|
|
|