Peniad darlunioPeniad darlunio
  English

Elusen y Diffoddwyr Tân

Elusen y Diffoddwyr Tân

Mae Elusen y Diffoddwyr Tân yn cefnogi personél anafus Tân ac Achub y DU a’u dibynyddion drwy therapi, adferiad, llinell gymorth ddiduedd, yn rhad ac am ddim a pholisi cefnogi buddiolwyr. Nid yw’r elusen yn derbyn dim arian gan y Llywodraeth ac mae’n ddibynnol iawn ar gyfraniadau oddi wrth y gwasanaethau tân a’r cyhoedd.

 

Caiff digwyddiadau codi arian di-rif eu cynnal yn rhanbarthol ac yn genedlaethol yn y gobaith o gael cronfa barod ar gyfer ei gwasanaethau sydd fawr eu hangen. Mae digwyddiadau blynyddol megis diwrnod Golchi Ceir Cenedlaethol yn helpu i codi miloedd o bunnoedd i ddarparu gwasanaethau cefnogi, ynghyd â gweithgareddau abseilio, Heriau Gyrru i Fenywod a phlymio o’r awyr hyd yn oed.

 

Mae’r elusen yn gredwr cryf y dylai codi arian fod yn hwyl, felly bydd cynrychiolwyr yr elusen yn ymdrechu i weithio gyda chi er mwyn rhoi rhywbeth yr oeddech bob amser am ei wneud at ei gilydd. Ymwelwch â’r babell fawr er mwyn darganfod mwy am waith elusen y Diffoddwyr Tân a sut y gallwch ymwneud â’r digwyddiadau codi arian.

Yn ôl i’r rhestr atyniadau