Peniad darlunioPeniad darlunio
  English

Dod o hyd i ni

Dod o hyd i ni

Parc Bute, Caerdydd, De Cymru, DU

Mae Parc Bute yn lloches ddymunol rhyw bum munud o ganol dinas Caerdydd. O erddi heddychlon y parc gallwch weld Stadiwm y Mileniwm a Chastell Caerdydd, clywed cerddoriaeth o Goleg Cerdd a Drama Cymru gerllaw, a mwynhau gwyrddni eang y parc. Mae’r Afon Taf yn llifo trwy’r parc, sy’n gartref i amrywiaeth eang o flodau yn ogystal â ‘Chôr y Cewri’ bychan. Gardd yng nghalon y ddinas.

Mewn Car

Am gyfarwyddiadau i Barc Bute, Caerdydd ewch at www.theaa.com/travel/index.jsp.

Parcio

Gallwch barcio yng Ngerddi Soffia – byddwch yn ymwybodol mai nifer cyfyngedig o lefydd parcio sydd ar gael. I ddod o hyd I feysydd parcio yng Nghaerdydd, ewch at www.ncp.co.uk.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

I drefnu eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus, ewch at www.traveline-cymru.org.uk.

Twristiaeth a Llety

Am fwy o wybodaeth ynghylch beth i weld yng Nghymru a llefydd i aros, ewch at www.visitwales.com.