![]() ![]() |
|
| English | |
|
|
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru – Cŵn Archwilio TânLlosgi bwriadol yw’r achos unigol fwyaf o danau yn y DU ar hyn o bryd. Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yw’r unig wasanaeth tân ac achub yng Nghymru sy’n gweithredu a defnyddio Cŵn Archwilio Tân ac yn un o ddim ond 11 Gwasanaeth Tân ac Achub ym Mhrydain sy’n defnyddio Cŵn Archwilio Tân.
Defnyddir Cŵn Archwilio Tân pan y credir mai llosgi bwriadol a achosodd y tân. Mae’r ci yn archwilio’r lleoliad tân unwaith ar ôl i’r tân gael ei ddiffodd ac mae’r lleoliad wedi oeri. Mae’r ci yn gallu arogli’r anwedd sy’n cael ei greu gan hylif fflamadwy (e.e. petrol, paraffin, disel ac yn y blaen) a’i olrhain yn gyflym.
Dewch i wylio arddangosfa! – Gwyliwch sut mae’r Ci Archwilio Tân yn darganfod ac yn dangos i’w driniwr lleoliad y sylwedd sydd wedi’i leoli ar aelod o’r gynulleidfa. Yn ôl i’r rhestr atyniadau |
|
|
|