Peniad darlunioPeniad darluno
  English

Rheoli Tân

Rheoli Tân

Ymwelwch â phabell fawr Rheoli Tân er mwyn cael y cyfle i weld sut y gwneir galwad brys, sut y gallwn olrhain galwyr sy’n gwneud galwadau o’u cartrefi, ffonau symudol neu giosgau ffôn. Gellir gwrando ar alwadau a dderbyniwyd yn y gorffennol ac ar ba gyngor a roddir i’r galwyr sydd wedi eu dal mewn sefyllfa lle mae tân. Gallwch hefyd weld damweiniau cyfoes sy’n gyfredol a gofyn cwestiynau am sut mae’r tîm Rheoli Tân yn delio â’r argyfwng.

 

Mae ein technoleg ddiweddaraf yn ein helpu i gyfathrebu â’r criwiau tân ac i roi gwybodaeth uniongyrchol iddynt megis gwybodaeth gemegol, ffynonellau dŵr a pheryglon uniongyrchol mewn ardaloedd. Pam na ddewch chi draw i gael tro arni? Cewch gyfle i weld eich ysgol neu eich cartref ar ein systemau mapio ac i weld sut y byddai offeryn tân yn eich cyrraedd. Gallwch brofi ein systemau i gofnodi damwain ac anfon offerynnau tân at yr argyfwng. 

Yn ôl i’r rhestr atyniadau