Peniad darlunioPeniad darlunio
  English

Dysgu a Datblygu

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi dechrau ar broses o newid er mwyn rhoi Gwasanaeth i’r cyhoedd sy’n canolbwyntio’n fwyfwy ar atal tanau ac argyfyngau eraill, yn hytrach nag ymateb iddynt. Diogelwch tân drwy atal yw’r unig ffordd i leihau tanau, a llawn mor bwysig i ddiogelwch y gymuned ag ymateb i ymladd tanau.

 

Mae adran Ddiogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi arloesi gydag amrywiaeth o brosiectau dyfeisgar iawn sydd wedi eu hanelu at bobl sy’n wynebu’r perygl mwyaf o gael eu hanafu mewn tân, yn ogystal â’r cyhoedd yn gyffredinol. Cyflwynwyd y mentrau hyn i’r Gorsafoedd, ac Ymladdwyr Tân sydd yn blaenori’r mentrau erbyn hyn drwy addysgu a chyfarwyddo’u cymunedau lleol. Cawn dystiolaeth bendant fod y mentrau hyn yn gweithio yn yr ystadegau. Mae nifer y bobl sy’n marw neu sy’n cael eu hanafu mewn tanau yng Nghymru ar ei isaf erioed.

 

Mae’r gostyngiad hwn yn newyddion gwych i’r cyhoedd, ac yn tystio i’n gwaith mewn partneriaeth, a’n mentrau blaengar sy’n anelu at hyrwyddo agwedd gyfrifol ynghylch diogelwch tân.

 

Mae gwrthdrawiadau traffig ar y ffordd erbyn hyn yn fwy cyffredin na thanau tai, a gwaetha’r modd, yn achosi llawer mwy o farwolaethau. O 1 Awst 2005 hyd 31 Gorffennaf 2006, aeth Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru at 1,349 o wrthdrawiadau traffig ar y ffordd, gan ymwneud, yn aml, â golygfeydd truenus lle cafwyd gwthdrawiadau traffig difrifol. Mae’n flaenoriaeth bwysig i ni dynnu sylw’r cyhoedd at y peryglon sy’n bodoli wrth i’r cyhoedd deithio ar ffyrdd De Cymru, a chodi ymwybyddiaeth o’r mesurau syml y mae modd eu cymryd er mwyn sicrhau eu bod hwy, eu cyd-deithwyr a defnyddwyr eraill y ffyrdd yn dal i fod yn ddiogel.

 

Am fwy o wybodaeth am fentrau a gweithgareddau eraill yr Adran Diogelwch Cymunedol llwythwch Llyfryn Mentrau'r Adran Diogelwch Cymunedol i lawr.