Peniad darlunioPeniad darlunio
  English

Atyniadau

Cofiwch ymweld â ni yma’n rheolaidd ar wefan ‘Gorau Glas’ am fod y rhestr atyniadau yn cynyddu’n ddyddiol!

Bydd ymwelwyr i’r digwyddiad yn cael cyfle i weld:

Tîm Recriwtio Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Ymwelwch â phabell recriwtio Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru er mwyn darganfod mwy ynghylch sut i ymuno â’n tîm! [mwy]

Tîm Chwilio ac Achub Trefol

Gwyliwch berson yn cael ei achub o adeilad sydd wedi cwympo. [mwy]

Uned Taenellu

Gall taenellwyr sydd wedi’u gosod o fewn i adeiladau masnachol a phreswyl arbed bywydau ac arian. [mwy]

Arddangosfa Sosban Sglodion

Gwyliwch arddangosfa ysgytwol o dân sosban sglodion yn mynd allan o reolaeth. [mwy]

Byddwch yn Ymladdwr Tân!

Cewch wisgo fel Ymladdwr Tân a thrio diffodd tân go iawn! [mwy]

Rheolaeth Tân

Darganfod beth sy’n digwydd pan fo pobl yn galw 999 a’r canlyniadau trychinebus o wneud galwad ffug. [mwy]

Tîm ‘Rap’ Ymlosgi

Oes gennych chi ddiddordeb mewn perfformio rap ‘ymlosgi’? Ai chi yw’r Eminem nesaf? Caiff ymwelwyr y cyfle i gyfansoddi rap diogelwch tân gyda’n Tîm Rapio. [mwy]

Tîm Parasiwt Llundain

Gwyliwch arddangosfa anhygoel Tîm Parasiwt Brigâd Dân Llundain. [mwy]

Pentref Chwaraeon

Mwynhewch amrywiaeth o arddangosfeydd chwaraeon a chymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon yng nghwmni chwaraewyr proffesiynol. [mwy]

Offer Tân

Cyfle i weld offer tân arbenigol, hen a newydd. [mwy]

Cŵn Archwilio Tân

Cewch eich difyrru gan sgiliau cŵn y Gwasanaeth Tân. [mwy]

Gwobr Dug Caeredin

Darganfyddwch sut i ymuno â mentrau Gwobr Dug Caeredin. [mwy]

Ymladdwyr Tân Ifanc

Dysgwch am fentrau Ymladdwyr Tân Ifanc ledled De Cymru. [mwy]

Corfflu Hyfforddi Awyr

Mae’r Corfflu Hyfforddi Awyr (ATC) yn sefydliad cadét wedi’i leoli yn y Deyrnas Unedig. Gwyliwch arddangosfeydd a drymiau’r Corfflu Hyfforddi Awyr. [mwy]

Dawns y Llew Tsieineaidd

Gwyliwch Ddawns y Llew Tsieineaidd. [mwy]

Dawns Cymru India

Gwyliwch berfformiadau hudol gan Ddawns Cymru India. [mwy]

Black River Arts

Gwrandewch ar y talent cerddorol gorau sydd heb gael eu harwyddo o ganolfan Black River Arts, Blaengarw. [mwy]

Y Lloches Tylluanod

Mae Lloches Tylluanod Parc yr Ŵyl, Glyn Ebwy yn dod i Gaerdydd! Gwyliwch arddangosfeydd anhygoel gan y Lloches Tylluanod. [mwy]

Elusen yr Ymladdwyr Tân

Cewch wybodaeth ynghylch Elusen yr Ymladdwyr Tân sy’n cefnogi personél Tân ac Achub y DU sydd wedi’u hanafu a’u teuluoedd. [mwy]

Adran Hyfforddi Gyrwyr Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Pa mor dda yw eich dealltwriaeth chi o God y Briffordd? [mwy]

Ymladdwyr Tân Ifanc Caerffili – Trochi’r Ymladdwr Tân

Dewch draw i weld os ydy’ch anal yn ddigon da i fwrw’r targed a throchi’r Ymladdwr Tân Ifanc! [mwy]

Tîm Gostwng Gwrthdrawiadau Traffig ar y Ffyrdd

Bydd personél o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru’n arddangos pwysigrwydd gwisgo gwregys diogelwch yn y car! [mwy]

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru – Iechyd a Ffitrwydd

Pa mor heini ydych chi? Dewch i weld yn y babell Iechyd a Ffitrwydd. [mwy]

Dawnswyr Habibi

O byramidau’r Aifft i farchnadoedd Twrci – dawnsio hynafol gan Ddawnswyr Habibi. [mwy]

Gyrfa Cymru Gwent

Bydd aelodau o Gyrfa Cymru, Gwent ar gael i gynnig gwybodaeth a chyngor gyrfaol. [mwy]

Bullies Out

Elusen gwrth fwlio i blant a phobl ifanc yw ‘Bullies Out’. Os ydych chi’n cael eich bwlio neu rywun rydych yn ei adnabod yn cael ei fwlio dewch i siarad ag aelod o dîm ‘Bullies Out’ mewn cyfrinachedd ynghylch beth dylech ei wneud. [mwy]

101 – Uned Achosion Heb Fod yn Achosion Brys

Nid oes angen ymateb brys ar bob problem, ond mae llawer o bobl yn galw 999 gan nad ydynt yn gwybod beth arall i’w wneud. Darganfyddwch pryd y dylech chi alw 101 yn lle 999. [mwy]

Partneriaeth Camerâu Diogelwch Canolbarth a De Cymru

Nod Partneriaeth Camerâu Diogelwch Canolbarth a De Cymru yw lleihau’r nifer o bobl sy’n cael eu lladd a’u hanafu ar ffyrdd Cymru drwy ostwng y nifer o droseddau cyflymder a goleuadau traffig. [mwy]

Cerbyd Arddangosfa Diogelwch ar y Ffyrdd Cyngor Caerdydd

Ymwelwch â’r cerbyd arddangos rhyngweithiol, cyffrous a newydd sbon a fydd yn cyflwyno arddangosfeydd ac yn dosbarthu llenyddiaeth trwy gydol y ddau ddydd. [mwy]

Firebrake

Caiff Firebreak Cymru ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Gyda chefnogaeth tri Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru, mae Firebreak yn hyrwyddo Fire Flash wrth hyrwyddo diogelwch tân yng Nghymru. [mwy]

Western Power Distribution

Bydd tîm diogelwch cymunedol Western Power wrth law i gynnig cyngor ar ddiogelwch trydanol a’r peryglon sydd ynghlwm â thrydan. [mwy]

Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru – Microdrone

Dewch i weld delweddau sy’n cael eu darlledu o’r micro-hofrennydd i sgrin fawr a chael cyfle i ffugio hedfan y micro-hofrennydd! [mwy]

Crimestoppers Cymru

Trwy gydol y digwyddiad bydd cyfle i chi dderbyn cyngor gan weithwyr Crimestoppers ar sut y gallwch roi gwybodaeth yn anhysbys ynghylch unrhyw un sy’n torri’r gyfraith. [mwy]

Mantis Gweddďol Chow Gar De Cymru – Tîm Dawnsio Llewod

Cewch eich adlonni gan ddawnsio traddodiadol Llewod sy’n dod â lwc dda i bawb sy’n gwylio. [mwy]

Prifysgol Morgannwg

Oes angen cyngor gyrfaol arnoch chi? [mwy]

Heddlu De Cymru – Adran Gŵn

Dewch i siarad â Heddlu De Cymru a gwylio Cŵn Heddlu wrth eu gwaith. [mwy]

Network Rail – mewn cydweithrediad â Threnau Arriva a British Rail

Gwyliwch gynhyrchiad dramatig o ganlyniadau troseddau rheilffyrdd. [mwy]

Triwch Seramig

Gwnewch a chadwch eich pot seramig personol. [mwy]

Bws Caerdydd

Neidiwch ymlaen i fws Caerdydd!! [mwy]

Gwylwyr y Glannau

Dewch i siarad â Gwylwyr y Glannau a gwylio arddangosfeydd yn defnyddio cerbyd achub go iawn. [mwy]

Wal Ddringo Creigiau Symudol

Ydych chi’n ddigon dewr i ddringo i frig y graig? [mwy]

Cerys Tugwell Campws Crosskeys – Colur Effeithiau Arbennig

Dewch i weld enghreifftiau erchyll o golur effeithiau arbennig. [mwy]

Dŵr Cymru

Cyngor ar sut i fod yn ddiogel dros yr haf. [mwy]