![]() ![]() |
|
| English | |
|
|
101 – Uned rhif pan nad yw’n argyfwngGwnaethpwyd tua 10 miliwn o alwadau 999 i’r heddlu yn 2004, ond yn anhygoel, nid oedd 70% o’r rhain yn argyfyngau dilys.
Nid oes angen ymateb argyfwng ar yr holl broblemau, ond mae nifer o bobl yn ffonio 999 am nad ydynt yn gwybod beth arall i’w wneud. Er bod cynghorau lleol a’r heddlu’n darparu llinellau cymorth ar hyn o bryd pan nad yw’n argyfwng, ymhlith y bobl a ofynnwyd, roedd llai na 30% ohonynt yn gwybod amdanynt.
Mae 101 yn rhif unigol 24-awr a ddarperir gan eich heddlu a’r cyngor lleol i ddelio â materion diogelwch cymunedol, gan gynnwys troseddu penodol nad yw’n argyfwng, plismona ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae 101 yn awr yn fyw yng Nghaerdydd, felly pam na ddewch chi draw i siarad ag un o’r tîm 101 dros gwpanaid o goffi a darganfod pryd y dylech ddefnyddio’r rhif 101, y manteision dros gael rhif unigol a sut bydd yr 101 newydd yn gwneud y cymunedau lleol yn lleoedd mwy diogel i fyw ac i weithio ynddynt.
Yn ôl i’r rhestr atyniadau |
|
|
|